Nadolig Llawen!

Postiwyd gan Hollie Edwards Roadshow Blogger

Wnes i fynychu gwasanaeth carolau Met Caerdydd wythnos diwedda, mewn adeilau perffaith; Eglwys Gadeiriol Llandaff. Teimlais yn Nadoligaidd iawn! Peth gwych gyda’r Brifysgol yw bod chi’n cael pedair wythnos bant ar gyfer Nadolig a’r Pasg! Er hynny does neb yn son am faint o waith bydd angen i chi wneud dros y pedair wythnos yma! Mae mis Ionawr a Mai fel arfer yn misodd prysur o ran terfynau amser gwaith cwrs ac arholiadau.

Er hynny, peidiwch a feddwl fy mhod am aros mewn trwy gydol yr amser! Dw’i methu aros i fwyta pwysau fy nghorff mewn bwyd, yfed a chymdeithasu gyda teulu a ffrindiau! Heb anghofion am fynd SGIO am wythnos ar y degfed o Ionawr! Wnaf rhoi adael i chi wybod sut aeth fy naith sgio wrth i fi ddychwelyd (gobeithio mewn un darn!)

Mae Caerdydd fel ddinas yn un lle i ymweld ag adeg Nadolig, gyda goleuadau’n fflachio ac yn hongiau o stryd i stryd, stondinau bach trwy ngahnol y strydoedd yn gwerthu eitemau Nadoligaidd a BWYD, ac hefyd heb anghofio am ‘Winter Wonderland’ – rhaid i chi fynd os nad ydych wedi’n barod!

Beth yw eich hoff ran o’r cyfnod y Nadolig?

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda! Joiwch a behafiwch!

 

 

 FullSizeRenderIMG_7537

Llenwch y wybodaeth isod i gael y newyddion fwyaf diweddar a hefyd unrhyw ddiweddariadau gan y tîm Sioe Deithiol: